2 Corinthians 12

Gweledigaeth Paul a'i boenau

1Rhaid i mi ddal ati i frolio. Does dim i'w ennill o wneud hynny, ond dw i am fynd ymlaen i sôn am weledigaethau a phethau mae'r Arglwydd wedi eu dangos i mi. 2Dw i'n gwybod am un o ddilynwyr y Meseia gafodd ei gipio i uchder y nefoedd
12:2 uchder y nefoedd Groeg, “y drydedd nefoedd”
bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Wn i ddim a ddigwyddodd hynny'n gorfforol neu beidio – dim ond Duw sy'n gwybod.
3Dw i'n gwybod ei fod 4wedi cael ei gymryd i baradwys, a'i fod wedi clywed pethau sydd y tu hwnt i eiriau – does gan neb hawl i'w hailadrodd. 5Dw i'n fodlon brolio am y person hwnnw, ond wna i ddim brolio amdana i fy hun – dim ond am beth sy'n dangos fy mod i'n wan. 6Gallwn i ddewis brolio, a fyddwn i ddim yn actio'r ffŵl taswn i yn gwneud hynny, achos byddwn i'n dweud y gwir. Ond dw i ddim am wneud hynny, rhag i rywun feddwl yn rhy uchel ohono i – mwy na beth ddylen nhw. Dw i eisiau i'w barn nhw amdana i fod yn seiliedig ar beth maen nhw wedi fy ngweld i'n ei wneud neu'n ei ddweud.

7Ond dw i wedi gorfod dioddef poenau corfforol (rhag i mi droi'n greadur rhy falch am fod Duw wedi datguddio pethau rhyfeddol i mi). Mae Satan wedi cael anfon negesydd i'm ffistio i. 8Dw i wedi pledio ar i'r Arglwydd ei symud, do, dair gwaith, 9ond ei ateb oedd, “Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i'n hapus iawn i frolio am beth sy'n dangos fy mod i'n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi. 10Ydw, dw i'n falch fy mod i'n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau'n anobeithio, er mwyn y Meseia. Achos pan dw i'n wan, mae gen i nerth go iawn.

Consýrn Paul am y Corinthiaid

11Dw i wedi actio'r ffŵl, ond eich bai chi ydy hynny. Chi ddylai fod yn fy nghanmol i, achos dw i ddim yn israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna. Er, dw i'n gwybod mod i'n neb. 12Cafodd gwyrthiau syfrdanol a phethau rhyfeddol eraill eu gwneud yn eich plith chi'n gyson – a'r pethau hynny sy'n dangos pwy ydy cynrychiolwyr go iawn y Meseia. 13Wnes i lai i chi na wnes i i'r eglwysi eraill? Dim ond peidio bod yn faich ariannol arnoch chi! … O, maddeuwch i mi am wneud cam â chi!

14Bellach dw i'n barod i ymweld â chi am y trydydd tro. A dw i ddim yn mynd i fod yn faich arnoch chi y tro yma chwaith. Chi sy'n bwysig i mi, nid eich arian chi! Rhieni sydd i gynnal eu plant; does dim disgwyl i'r plant gynilo er mwyn cynnal eu rhieni. 15A dw i'n fwy na pharod i wario'r cwbl sydd gen i arnoch chi – a rhoi fy hun yn llwyr i chi. Ydych chi'n mynd i ngharu i'n llai am fy mod i'n eich caru chi gymaint?

16Felly wnes i ddim eich llethu chi'n ariannol. Ond wedyn mae rhai yn dweud fy mod i mor slei! Maen nhw'n dweud fy mod i wedi llwyddo i'ch twyllo chi! 17Sut felly? Wnes i ddefnyddio'r bobl anfonais i atoch chi i gymryd mantais ohonoch chi? 18Dyma fi'n annog Titus i fynd i'ch gweld chi ac anfon ein brawd gydag e. Wnaeth Titus fanteisio arnoch chi? Na, mae ganddo fe yr un agwedd â mi, a dŷn ni'n ymddwyn yr un fath â'n gilydd.

19Ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn amddiffyn ein hunain o'ch blaen chi? Na, fel Cristnogion dŷn ni wedi bod yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw, a hynny er mwyn eich cryfhau chi, ffrindiau annwyl. 20Ond pan fydda i'n dod acw, mae gen i ofn y byddwch chi ddim yn ymddwyn fel y baswn i'n hoffi. Wedyn fydda i ddim yn ymateb fel y byddech chi'n hoffi! Mae gen i ofn y bydd yna ffraeo, cenfigennu, gwylltio ac uchelgais hunanol, pobl yn enllibio, hel straeon, yn llawn ohonyn nhw eu hunain ac yn creu anhrefn llwyr. 21Mae gen i ofn y bydd Duw yn gwneud i mi deimlo cywilydd o'ch blaen chi eto pan fydda i'n dod acw. Bydda i wedi torri fy nghalon am fod llawer acw yn dal ati i bechu a heb droi cefn ar eu meddyliau mochaidd, eu hanfoesoldeb rhywiol a'u penrhyddid llwyr.

Copyright information for CYM